Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Llun, 23 Hydref 2017

Amser: 14.02 - 15.58
 


Preifat

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Nick Ramsay AC (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Neil Hamilton AC

Vikki Howells AC

Adam Price AC

Lee Waters AC

Swyddfa Archwilio Cymru:

Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru

Matthew Mortlock

Staff y Pwyllgor:

Fay Bowen (Clerc)

Meriel Singleton (Ail Glerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Hywel Dafydd (Ymchwilydd)

Sally Jones (Ymchwilydd)

Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod ac estynnwyd croeso i Adam Price AC a etholwyd yn aelod o'r Pwyllgor ar 18 Hydref.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei rhan.

</AI1>

<AI2>

2       Papur(au) i'w nodi

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

</AI2>

<AI3>

2.1   Gwasanaethau rheilffyrdd: gohebiaeth gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau (10 Hydref 2017)

</AI3>

<AI4>

3       Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Caffael Cyhoeddus yng Nghymru

3.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wybodaeth ar lafar am ganfyddiadau ei adroddiad ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 17 Hydref. Hysbyswyd y Pwyllgor gan yr Archwilydd Cyffredinol y byddai adroddiad arall ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.

3.2 Nododd yr Aelodau yr adroddiad a chytunwyd i ymgymryd ag ymchwiliad pan gyhoeddir adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.

</AI4>

<AI5>

4       Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru

4.1 Trafododd yr Aelodau y papur cwmpasu ar gyfer yr ymchwiliad i'r Rhaglen Cefnogi Pobl

4.2 Cytunodd yr Aelodau y dylai'r ymchwiliad ganolbwyntio ar effaith datblygiadau polisi ehangach; trefniadau dosbarthu cyllid a chynllunio ariannol; a monitro a gwerthuso effaith y rhaglen. Cytunodd yr Aelodau hefyd i gynnal ymgynghoriad ysgrifenedig.

 

</AI5>

<AI6>

5       Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal

5.1 Clywodd yr Aelodau ddadansoddiad llafar o'r ymatebion i'r ymgynghoriad gan Hywel Dafydd o'r Gwasanaeth Ymchwil. Siaradodd Sally Jones o'r Tîm Cyfathrebu am ganfyddiadau'r cyfarfodydd grwpiau ffocws a gynhaliwyd gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.

5.2 Trafododd yr Aelodau gwmpas yr ymchwiliad a thystion posibl ar gyfer Rhan 1 yr ymchwiliad.

</AI6>

<AI7>

6       Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor: briffio'r Aelodau - trafodaeth ar ddull gweithredu

6.1 Trafododd yr Aelodau bapur ar y deunydd briffio maent yn ei gael i'w cynorthwyo gyda'u gwaith paratoi ar gyfer sesiynau casglu tystiolaeth.

 

</AI7>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>